SL(6)691 – Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026

Cefndir a diben

Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yw'r dulliau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru i roi cymorth i aelwydydd ar incwm isel er mwyn iddynt allu talu eu treth gyngor.

Mae’r rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel “Rheoliadau 2013”). Maent yn uwchraddio rhai ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl ymgeisydd i ostyngiad, a lefel y gostyngiad, o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.

Yn ogystal ag uwchraddio’r ffigurau ariannol, mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau technegol, cyflwyniadol a chanlyniadol i Reoliadau 2013 a ddyluniwyd i sicrhau bod Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn adlewyrchu newidiadau i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol cysylltiedig a systemau eraill a’u bod yn parhau i fod “yn addas i’r diben”, fel y mae’r Memorandwm Esboniadol yn egluro.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford AS, Ddatganiad Ysgrifenedigmewn perthynas â’r Rheoliadau hyn ar 9 Rhagfyr 2025.

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft. 

Materion technegol: craffu

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn rheoliad 6(1)(c), yn is-baragraff newydd (s)(iii), mae gwahaniaeth rhwng y testun Saesneg a'r testun Cymraeg. Yn y testun Saesneg, yn y geiriau cyn is-baragraffau (aa) i (dd) mae'n nodi "has-", ond yr hyn a roddir gan y testun Cymraeg yw "sy’n bodloni un o'r meini prawf a ganlyn-". Felly, mae'r testun Cymraeg wedi defnyddio'r un ymadrodd a ddefnyddiwyd yn gynharach ar ddechrau'r is-baragraff newydd (r)(iv) (sydd hefyd wedi'i fewnosod gan reoliad 6(1)(c)), nad yw'n digwydd yn y testun Saesneg. Mae'r un gwahaniaeth hefyd yn digwydd yn rheoliad 17(1)(c), yn y paragraff newydd (s)(iii).

Yn ogystal, yn y paragraff (s)(iii) newydd, a fewnosodwyd gan reoliad 17(1)(c), mae'r ymadrodd "yn berson" yn cael ei ailadrodd ar ddechrau pob un o baragraffau (aa) i (dd), yn wahanol i'r testun Saesneg. Nid yw hyn yn digwydd yn nhestun Cymraeg yr is-baragraff (s)(iii) newydd, a fewnosodwyd gan reoliad 6(1)(c).

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 8(a)(i), mae'r swm a nodwyd ar gyfer diwygio yn is-baragraff (1), yng ngholofn (2) o'r Tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, yn anghywir. Dynodir y swm fel "£244.00 ond y swm a nodir yn nhestun presennol y Tabl yn y ddarpariaeth honno yw "£244.40.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 15(a), yn y testun Cymraeg, nodir bod yr is-baragraffau newydd (3) a (4) i'w mewnosod “ar ôl is-baragraff (3)". Dylai hyn ddweud “ar ôl is-baragraff (2)", fel sy'n digwydd yn y testun Saesneg.

4.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 25(a)(i), nid yw’r testun Cymraeg yn nodi’r swm cywir ar gyfer ei ddiwygio yn is-baragraff (1) yng ngholofn (2) o'r Tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013. Mae'r testun Cymraeg yn nodi "£244.40 fel y swm (fel y mae'r testun Saesneg), ond nodir swm gwahanol o "£244.00 yn nhestun Cymraeg presennol y ddarpariaeth honno.

Ymddengys bod hyn yn deillio o wall hanesyddol a wnaed yn y testun Cymraeg gan reoliad 20(a)(i) o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 (SI 2025/59 (W. 17)) (“Rheoliadau 2025”) a fewnosododd “£244.00” yn anghywir yn hytrach na “£244.40” i'r testun Cymraeg yn is-baragraff (1) yng ngholofn (2) o'r Tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013. Cafodd “£244.40” ei fewnosod yn y testun Saesneg.

Gofynnir hefyd i Lywodraeth Cymru egluro a yw'r anghysondeb hanesyddol hwn rhwng testunau Cymraeg a Saesneg y ddarpariaeth honno yn debygol o fod wedi cael effaith ymarferol ar gyfrifiadau i hawl ymgeisydd i ostyngiad o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ers i Reoliadau 2025 ddod i rym.

5.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Yn rheoliad 26(b), mae gwahaniaeth rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi mai’r swm newydd yw "£87.88 ond y swm newydd yn y testun Cymraeg yw “87.99. Mae hyn yn golygu bod y testunau Cymraeg a Saesneg yn mewnosod symiau gwahanol i golofn (2) o'r Tabl ym mharagraff 3(1) o Atodlen 3 i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

6.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae paragraff 2.1 o'r Memorandwm Esboniadol yn egluro fel a ganlyn:

“Mae’r offeryn hwn wedi ei lunio heb ddefnyddio’r feddalwedd newydd ar gyfer offerynnau statudol Cymreig. Mae’n bosibl felly y bydd angen gwneud mân welliannau i’r fformadu yn ystod y broses gofrestru os caiff y ddeddfwriaeth hon ei chymeradwyo gan y Senedd a’i gwneud gan Weinidogion Cymru.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pwyntiau adrodd technegol yn unig.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

18 Rhagfyr 2025

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu Technegol 1:  Roedd y geiriau a ddefnyddiwyd yn y testun Cymraeg yn ddewis bwriadol o ganlyniad i’r defnydd o osodiadau cadarnhaol a negyddol yn yr is-baragraffau. Mae paragraff 2.7(4) o Drafftio Deddfau i Gymru yn cadarnhau y dylid dilyn y dull hwn.

Rydym yn cytuno na ddylid ailadrodd “person” yn y testun Cymraeg a byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu cywiro fel y nodir isod cyn eu gwneud.

 

Pwyntiau Craffu Technegol 2, 3 a 5:  Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r pwyntiau adrodd hyn a bydd yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu cywiro fel y nodir isod cyn eu gwneud.

 

Pwynt Craffu Technegol 4:  Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â’r pwynt cyntaf a bydd yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu cywiro fel y nodir isod cyn eu gwneud.

 

Mewn perthynas â’r ail bwynt, nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried y byddai’r anghysondeb hanesyddol wedi arwain at unrhyw effaith ymarferol ar gyfrifo hawlogaeth ceisydd i ostyngiad. Mae’r gwall yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 sy’n gymwys, yn ddiofyn, pan na fo awdurdod wedi gwneud cynllun ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol. Gwnaeth pob awdurdod yng Nghymru gynllun yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 yn y flwyddyn ariannol berthnasol felly ni fyddai’r gwall hwn wedi cael unrhyw effaith.

 

Cywiriadau drafftio technegol i’w gwneud cyn gwneud y Rheoliadau

CYWIRIADAU I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU

CYWIRIADAU I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026

The Council Tax Reduction Schemes (Prescribed Requirements and Default Scheme) (Miscellaneous Amendments) (Wales) Regulations 2026

Yn rheoliad 8(a)(i), bydd y ffigur “£244.00” yn cael ei gywiro i ddarllen “£244.40”.

Yn rheoliad 8(a)(i), bydd y ffigur “£244.00” yn cael ei gywiro i ddarllen “£244.40”.

Yn rheoliad 15, bydd y cyfeiriad at “ar ôl is-baragraff (3)” yn cael ei gywiro i ddarllen “ar ôl is-baragraff (2)”.

 

Yn rheoliad 17(1)(c), bydd y gair “person” yn cael ei ddileu o bob un o’r paragraffau (aa) i (dd) yn y paragraff (s)(iii) newydd.

 

Yn rheoliad 25(a)(i), bydd y paragraff (i) presennol yn cael ei ddiwygio i ddarllen:

“(1) yn is-baragraff (1)—

(aa) yn y testun Saesneg, yn lle “£244.40” rhodder “£256.00”;

(bb) yn y testun Cymraeg, yn lle “£244.00” rhodder “£256.00”;”.

Yn rheoliad 25(a)(i), bydd y paragraff (i) presennol yn cael ei ddiwygio i ddarllen:

“(i) in sub-paragraph (1)—

(aa) in the English language text, for “£244.40” substitute “£256.00”;

(bb) in the Welsh language text, for “£244.00” substitute “£256.00”;”.

Yn rheoliad 26(b), bydd y ffigur “£87.99” yn cael ei gywiro i ddarllen “£87.88”.

 

Bydd mân faterion teipograffyddol a chroesgyfeirio yn y Nodyn Esboniadol hefyd yn cael eu cywiro.